Ar ôl cyrraedd byddwch yn cael eich croesawu gan aelod o staff a fydd yn dangos y cyfleusterau i chi ac yn cynnal sesiwn diogelwch.

Cofiwch y bydd angen i chi ddod a tywel eich hun a gwisg nofio addas. Gweler ein Cwestiynnau a ofynnir yn aml eraill i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn eich profiad sawna.

Ar ôl gadael eich eiddo personol yn un o’r loceri yn y dderbynfa, byddwch yn cerdded ar draws y glaswellt (tua 30 metr) i’r trelar sawna. Yma, byddwch yn gadael eich tywel/gwisg sbâr, esgidiau ac allwedd locer yn y man newid. Gan wisgo’ch dillad nofio a’ch tywel, byddwch wedyn yn mynd drwy’r drws gwydr i mewn i’r sawna, a fydd yn boeth ac yn barod i chi. Nid oes disgwyl i chi boeni am y tân coed sy’n cynhesu’r stôf sawna – rydyn ni’n gofalu am hynny, gan gynnwys ychwanegu mwy o foncyffion pe bai angen.

Unwaith rydych i fewn, fe welwch fod dwy haen o seddi yn y sawna: y fainc uwch a’r seddi sydd agosaf at y stôf fydd poethach. Dewiswch eich lle ac eisteddwch ar y tywel yr ydych wedi dod gyda chi.

Mae profiad sawna traddodiadol yn cynnwys rowndiau cynhesu bob yn ail yn y sawna, ac yna oeri, gorffwys a hydradu. Dim ond am gyhyd ag y mae’n teimlo’n gyfforddus y dylech chi aros yn y sawna – gall hyn fod cyn lleiad â 3-5 munud neu hyd at 15 munud ar y tro. Yn ystod y cyfnod hwn, mwynhewch y cynhesrwydd a gadewch i’ch corff a’ch meddwl ymlacio a dadflino.

Pan fyddwch yn barod i oeri, gallwch chi orffwys a mwynhau’r golygfeydd yn ein trelar ‘oeri’ pwrpasol, neu’r tu allan yn yr awyr iach. Efallai y byddwch eisiau rinsio i ffwrdd yn y cawod dŵr oer – neu yn y cawod bwced awyr agored os ydych yn ddigon dewr! Ac os ydych chi eisiau cofleidio’r profiad poeth ac oer yn llawn, cymerwch dro yn ein pwll plymio dŵr oer. Os yw’r amodau’n caniatáu, gallech ddefnyddio’r môr fel eich pwll plymio, ond mae hyn ar eich menter eich hun – byddwch yn ofalus a byddwch yn ymwybodol o’r llanw ac amodau’r môr!

Pa bynnag ffordd y byddwch chi’n dewis oeri, cofiwch fod gan bobl oddefiannau gwahanol i boeth ac oerfel, felly gwrandewch ar eich corff a gwnewch yr hyn sy’n teimlo’n iawn i chi – dyma’ch profiad chi a does dim pwysau i wneud dim byd heblaw’r hyn ydych chi gyfforddus gyda.

Os ydych chi’n ymgolli mewn dŵr oer neu’n defnyddio’r cawod, ewch yn araf a rhowch amser i’ch corff addasu cyn mynd am y dip llawn. I’r rhan fwyaf o bobl, nid yw mynd o sawna poeth i ddŵr oer yn rhywbeth y mae eich corff yn cael trafferth gyda, ond i rai pobl gall hyn achosi risg iechyd – yn enwedig os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd sylfaenol. Rydym bob amser yn argymell gwirio gyda gweithiwr meddygol proffesiynol yn gyntaf cyn i chi amlygu eich corff i straen newydd.

Ar ôl i chi oeri, ewch yn ôl i gynhesrwydd y sawna, ac ailadroddwch y cylch tan ddiwedd eich sesiwn. (Caniatewch ddigon o amser i newid o fewn eich slot amser os ydych yn defnyddio’r ardal newid.)