Clwb Sawna
Arbedwch arian trwy dalu ymlaen llaw gyda’n Clwb Sawna.
Clwb Sawna
Arbedwch arian trwy dalu ymlaen llaw gyda’n Clwb Sawna.
Talwch ymlaen llaw am 10 sesiwn a chael 2 am ddim
Mae ein pecynnau Clwb Sawna yn eich galluogi i gael dwy sesiwn sawna am ddim trwy dalu am 10 sesiwn ymlaen llaw, gan arbed hyd at £40.
Ar hyn o bryd mae gennym ddau opsiwn Clwb Sawna gwahanol – un pecyn ar gyfer Sesiynau Cymunedol 50 Munud ac un ar gyfer Sesiynau Cymunedol 80 Munud. Maent yn ddelfrydol ar gyfer ein ymwelwyr Sauna Cymunedol rheolaidd fydd yn gallu arbed arian trwy ragdalu. Nodwch fydd rhaid eu defnyddio o fewn 2 flynedd o’r dyddiad prynu.
Unwaith y bydd eich taliad wedi’i brosesu byddwch yn derbyn cod cwpon arbennig trwy e-bost. Yn syml, nodwch y cod hwn, yn union fel y byddech yn ei wneud â thocyn anrheg neu god disgownt, yn y blwch Cwpon yn ystod y broses archebu arferol. Bydd nifer y sesiynau y gellir defnyddio’r cod ar eu cyfer yn lleihau fel y bo’n briodol bob tro y byddwch yn ei ddefnyddio, hyd nes y byddwch wedi archebu pob un o’r 12 sesiwn – nid oes angen archebu pob un o’r 12 sesiwn ar unwaith.
Mae pob archeb a wneir gyda phecynnau Clwb Sawna yn amodol ar ein Telerau ac Amodau. Rhaid archebu pob pecyn Clwb Sawna o fewn 2 flynedd o’r dyddiad prynu.