Amdanom Ni
Hanes Sawna Cricieth
Amdanom Ni
Ein Stori Sawna
Helo! Andy ac Esther yda ni, y tîm gŵr a gwraig y tu ôl i Sawna Cricieth.
Rydym yn caru’r awyr agored, yn caru’r môr ac yn caru sawnau (a’n gilydd!)
Daeth Andy i Gymru o Ganada ar wyliau, cwrdd ag Esther…a byth gadael! Pum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, rydym ni a’n teulu ifanc yn ystyried ein hunain yn ffodus iawn i alw Cricieth yn gartref i ni, ac i fyw a gweithio mewn le mor hyfryd. Yn 2017 fe brynon ni’r safle oedd wedi bod yn ‘pitch and putt’ Morannedd, ac ychwanegu golff disg a golff peldroed i greu aml-golff Cricieth. Y flwyddyn ganlynol fe wnaethom ychwanegu llogi byrddau padlo a caiacs i’r busnes, gan wneud y gorau o’n lleoliad hardd wrth ymyl y môr. Ers ychydig o amser rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio ein safle y tu hwnt i fisoedd yr haf….ac ar ôl ymweld â ffrindiau yn Sweden a gwirioni ar ddiwydiant sawna, cawsom ein ‘light bulb moment’ – a ganwyd Sawna Cricieth!
Mae ein sawna wedi’i adeiladu gan Andy, (gan wneud defnydd da o’i gefndir yn y diwydiant adeiladu), a’i ddylunio gennym ni ar y cyd â’r tîm gwych yn sawna Finnmark.
Rydym wrth ein boddau gyda’r canlyniadau, a gobeithio y byddwch chithau hefyd.
Dewisiwch eich profiad sawna
Preifat neu Cymunedol
Gall eich sesiwn sawna fod yn Breifat, i chi a’ch parti o hyd at 8 o bobl, neu gallwch archebu lle mewn sesiwn Cymunedol gyda aelodau eraill o’r cyhoedd.
Er eich cysur, rydym yn cyfyngu’r nifer mewn sesiwn gymunedol i 6, er mwyn caniatáu ychydig mwy o le i bawb. Mae sesiynau sawna ar gael mewn sesiynau 50 neu 80 munud, gan gynnwys amser ar gyfer newid.
Rydym ar agor yn reolaidd o ddydd Gwener i ddydd LLun bob wythnos; gweler ein tudalen archebu ar gyfer y sesiynau sydd ar gael. Os hoffech drefnu profiad sawna y tu allan i’n horiau agor arferol, cysylltwch â ni.
Pam fynd am brofiad sawna?
Buddion iechyd sawna
Pam fynd am brofiad sawna?
Buddion iechyd
Dal ddim yn sicr? Nid gweithwyr meddygol proffesiynol ydyn ni, ond yn sicr mae’r bobl a ysgrifennodd y papur hwn o’r enw Cardiofasgwlaidd a Buddion Iechyd Eraill o Ymdrochi mewn Sawna: Adolygiad o’r Dystiolaeth. Yna mae Beth i’w Wybod Am Sawna a’ch Iechyd gan WebMD, a Gadewch i ni siarad sawna a lles meddwl gan Gymdeithas Sawna Prydain. Ac wrth gwrs mae digon o wybodaeth arall ar y Rhyngrwyd i chi chwilio amdani.